O'r Fainc.. | From the Bench..

Blog gwaith coed a dylunio gan wneuthurwr cadair Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017. Bydd y blog hwn yn cael ei ddiweddaru cyn amled a mae’r awydd yn taro, ond dilynwch Rhodri ar facebook a twitter am y diweddaraf ar brosiectau ac unrhyw ddiweddariadau i’r dudalen hon.

Woodworking and design blog by the maker of the Bardic Chair at the 2017 National Eisteddfod to be held on Anglesey. This blog will be sporadicaly updated as often as possible, follow Rhodri on facebook and twitter for the latest information on projects and updates to this page. The entries are all bilingual.

Y Fenni 2016

Bu’n bleser o’r mwya’ treulio wythnos arall yn neuadd arddangos yr Eisteddfod Genedlaethol, y tro hwn yn y Fenni. Yn ogystal a’r dodrefn, eleni roedd celf gwreiddiol Elin Lisabeth ar waliau’r stondin hefyd. Roedd yn gwneud gwahaniaeth mawr ac yn welliant amlwg ar ddiwyg flwyddyn dwytha. Elfen fydd sicr yn dod yn ei ol flwyddyn nesa gyda arlunydd arbennig iawn o Fôn. Mwy o wybodaeth i ddilyn. Rhag i hwn droi’n ormod o adroddiad papur bro, hoffwn eich sicrhau y bu’n wythnos hynod lwyddianus o falu awyr, rêfs arobryn mewn coed, diffyg cwsg a gwerthu dodrefn. Dyma ‘chydig o flas o’r wythnos, ar ac oddi ar y stondin gan ddiolch i bawb o ardal Sir Fynwy ddaeth heibio fi ac Elin ac i’r steddfod yn gyffredinol i ryfeddu a phrofi’r wythnos arbennig hon. It was a great pleasure spending another week in the exhibition hall of the National Eisteddfod. This year in Abergavenny. As well as the furniture, this year Elin Lisabeth’s illustrative paintings were hanging on the wall of the stall. This made a huge difference and an improvement on the look of last year. This will be something that will return next year with a very special artist from Anglesey, the home of the Eisteddfod. More details to follow. In case this turns into a sunday school trip report, I’d like to ensure you that it was a very succesful week of general mayhem, random raves in woods, lack of sleep and selling furniture. Here’s a little taste of the week that was, on and off the stall and thanks to everyone from Monmouthshire who came to...

Siabod

Pwrpas y blog yma ydi taflu syniadau dylunio ar bapur a chael gweld be sy’n sdicio – ryw feddwl allan yn uchel a chwilio am ysbrydoliaeth ym mhob agwedd o Eryri. Os dio’n gneud synnwyr – gret! Os ddim, yna dwi ddim am honni ei fod o fod i. Dwi wedi byw yn Eryri yn rhywle neu’i gilydd fwy neu lai ar hyd fy oes – efo un neu ddau o detours at y môr ar y ffordd. Ddim mod i’n hen iawn chwaith cofiwch, ddigon hen i gofio pan odd lampa paraffîn a shellsuits yn thing ac yn ddigon ifanc i beidio a rhamantu gormod am y gorffennol. This blog’s purpose is to throw design ideas around, thinking out aloud whilst finding inspiration from all aspects of Snowdonia. If it makes sense, then great! If it doesn’t then I’m not going to claim that it was meant to. I’ve lived in Snowdonia national park more or less all my life, with a couple of detours to the sea on the way. Not that I’m that old, old enough to remember paraffin lamps and shellsuits and young enough to not romanticize about the past. Er ein bod ni, fel plant yn yr 80au wedi arfer bod allan ymhob tywydd, roedd cerdded a mynydda yn rywbeth oedd pobol eraill yn ei wneud os oedden nhw ddigon gwirion i fynd. Saeson masiwr. I drio unioni y ffaith na fues i fyny ryw lawer o ddim tra on i’n fengach dwi wedi bod ers ambell i flwyddyn yn bygwth dringo amryw i fynydd sydd yn dal i fod ar stepan drws. Dyma...

Tyddyn Cwtyn y Ci

“Wel, mae Tyddyn Cwtyn y Ci yn Ysbyty Ifan. Tyddyn Cwtyn mae nhw’n ‘i alw fo. Rodd ‘no ryw ddyn yn byw yno. Clywed yr hanes wnes i; chlywais i ddim beth oedd enw’r dyn, yndê. Ond odd o’n byw yn Tyddyn Cwtyn y Ci. Ac odd o’n breuddwydio bob nos dase fo’n mynd i Bont Llunden byse fo’n gneud ‘i ffortiwn.” Pa mor bell fydda rhywun mewn pentref gwledig yn yr oes o’r blaen yn mynd i ddarganfod ysbrydoliaeth? Mae’n siwr bod traddodiad llenyddol yn gryfach na un celfydddydol yng Nghymru’r oes honno ond son am gelf yn benodol ydw i a chrefft fel modd i wneud celf. Dwi yn tueddu i feddwl allan yn uchel ar hwn ond tybiaf bod unrhyw ddylanwad Celtaidd, sef yr un mwya amlwg o ran synnwyr o berthyn wedi’i gladdu o bosib erbyn yr oes honno a’i ddylawnad hefyd ar wenuthuriad wedi hen fynd, ond eto mae dyluniadau troliau ac olwynion ac offer fel rhawiau mawn efo siapiau naturiol ddeniadol ynddyn nhw er bod y siapiau yno wedi’u creu i bwrpas arbennig – i weithio ryw ffordd arbennig ddim i edrych fel addurn. Oherwydd hyn dwi wedi bod yn meddwl ers dipyn y bysa defnyddio siap coes pladur fel templed mewn dyluniad bwrdd neu gadair yn gweithio’n dda. Mae’r siap yn ddeniadol i ddechrau arni, a mae’r syniad o ailbwrpasu yn apelio llawer yn enwedig os oes ryw ystyr arall yn cael ei roi iddo. Pa ffarmwr sy’n holi am goes pladur yn yr oes yma? Dim ryw lawer felly fydda i ddim yn eu gwneud nhw, ond eto mae’n bechod gweld...

Edrych ymlaen – Looking Forward

Diwrnod ola’r flwyddyn a mae pawb i weld yn disgyn dros eu gilydd i wneud ryw fath o adolygiad o’r flwyddyn a fu, boed yn fusnes neu unigolyn. Dwi ddim am wneud hynny a dwi’m yn meddwl bod neb eisiau gwybod mewn gwirionedd pry’n bynnag. Er hynny dwi yn teimlo’r angen i sgwennu rywbeth achos mae gen i lawer i fod yn ddiolchgar amdano a llawer o bethau i edrych ymlaen atyn nhw yn 2016. Bron i dair mlynedd i mewn – fedra i ddweud a llaw ar fy nghalon mai cychwyn y busnes yma ydi’r peth anoddaf dwi erioed wedi ei wneud a fyswn i wedi medru rhoi’r ffidil yn y tô nifer o weithiau ond dwi’n gwybod petawn i wedi, y byswn i’n difaru. Bum mlynedd yn ôl fyswn i ddim wedi medru llifio’n syth heb son am unrhyw beth arall ond dwi’n gweld datblygiad creadigol yn fy ngwaith a ffordd o feddwl drwy’r adeg a mae dysgu gymaint o ddydd i ddydd yn rywbeth na fedra i ffeirio yn ôl am ddiwrnod naw tan bump arferol bellach – fedra i ddim. A mae gweithio i fi fy hun y teimlad gorau erioed. Dwi hefyd yn falch iawn o weld busnesau ‘band un dyn/dynes’ eraill creadigol o’r safon uchaf yn yr ardal yn gwneud cystal. Parch. Os oes yna rywun talentog a phenderfynol efo dipyn o ardddeliad iddyn nhw yn darllen hwn ac yn meddwl gwneud rywbeth tebyg – gnwewch o i’r diawl. Fues i’n ddigon gwirion, a dwi’n dra diolchgar am hynny. Yn ystod y flwyddyn nesa’ dwi am ddechrau dylunio casgliad ychydig yn wahanol, fydd...

Mwynder Maldwyn // Eisteddfod 2015

Dyna be oedd wythnos. Fel arfer i mi mae’r Eisteddfod yn wythnos o fwynhau, yfed, cyfarfod pobol newydd, cyfarfod hen ffrindiau, rwdlan, bandiau, barddoniaeth, campio, diffyg cwsg, dod i adnabod ardal newydd, profiadau emosiynol sy’n aros am chydig o fisoedd wedyn, celf a thomen o brofiadau eraill. Afraid dweud – ticiwyd y bocsys arferol ond y tro hwn ar ben y cowdel emosiynol a blinedig yma – roedd gen i stondin ar y maes am y tro cyntaf erioed. Well, that was something. Usualy, for me, the Eisteddfod means a week of enjoying, drinking, meeting new people, meeting old friends, talking nonsense, bands, poetry, camping, sleep deprevation, getting to know a new area, emotional experiences that last a few months after, art and a pile of other things. No need to say all boxes were ticked this time as well only this time I had a stall on the Maes. Roedd o’n gyfle arbennig a mi dreulais i wythnosau yn creu stoc newydd a gwahanol i’w arddangos ar lwyfan mwyaf Cymru a bu’n werth bob munud o waith. Ar y stondin yn y neuadd arddangos, roedd siarad am fy ngwaith am wythnos gyfa yn hwb mawr i mi fel crefftwr a mi fyswn yn ei argymell i unrhyw un. Heb son am werthiant, mae’r syniadau creadigol a ddaeth yn sgîl siarad a phwyso a mesur ymateb pobol i fy ngwaith yn amhrisiadwy. Sy’n oglygu y bydd llawer mwy i ddod. This was an amazing oppurtunity and I spent weeks creating new and different stock to exhibit in the largest festival of competitive music and poetry in Europe. On the...

Tafwyl

Diolch yn fawr iawn i Ŵyl Tafwyl yng Nghastell Caerdydd am fy nghael i am y penwythnos. Mae’n anhygoel sut mae’r ŵyl yma wedi tyfu dros y blynyddoedd dwytha’ a dwi’n hynod falch o fod yn rhan fach ohoni eleni. Mi lwyddais i stwffio gymaint o ddodrefn yng nghefn y car ac oedd yn bosib ac awê i lawr yr A470. Thanks a lot to Tafwyl in Cardiff Castle for having me for the weekend. It’s quite impressive how this festival has grown in the past few years and I was really glad to be a part of it. I stuffed as many pieces as possible into the car and hammered it down the A470. Dyma’r tro cyntaf i mi arddangos yn yr ŵyl a mi fuodd hi’n benwythnos a hanner yn y ddinas. Roedd Tafwyl yn gyfle perffaith i ddangos gwaith i gynulleidfa ddinesig ond hefyd mwynhau’r gerddoriaeth a chwrdd a phobl newydd. Yfwyd un neu ddau o fojitos ac yn sicr mi ges i gyfle i fwynhau’r ŵyl bach hyfryd yma. Welai chi flwyddyn nesa’. This is the first time i exhibited at the festival and it was a weekend and a half in the city. Tafwyl is a great oppurtunity to exhibit work to a varied crowd but also enjoy the music and meet new people. I drank a couple of mojitos and really enjoyed this lovely festival. See you next...

Blogiad cyntaf…

Mae’r gweithdy yn hên. Ddim mor hên a 1904 oherwydd tydy fy nhaid (sy’n dal y fwyell yn y llun uchod) ddim wedi ei adeiladu eto. Ond rywbryd yn ystod y blynyddoedd canlynol, mi gododd yr adeilad sydd dal yn sefyll heddiw, ar lawr pridd lle mae’r trelar hwnnw yn sefyll rhwng y ddwy goeden yn y llun. Dydy’r llawr pridd ddim yno dim mwy, oherwydd i fy nhad osod sleepers rheilffordd yn lawr o un pen i’r llall rywbryd yn ystod y 60au neu’r 70au. Be sy’n ddifyrach am y llun ydy’r prysurdeb naturiol sydd i’w weld a phawb a’i swydd mewn cymuned hollol hunan gynhaliol, a ddim rhamantu ydw i (wel ella chydig) ond dwi o’r farn nad ydy pentrefi cefn gwlad i fod yn ‘lefydd tawel’. Mae’r elusendai sydd yn y cefndir yn y llun bellach yn dai gwyliau, fel nifer o’r tai yn y pentre’, am fod rywun wedi gweld cyfle i ecsploitio harddwch naturiol a distawrwydd symptomatic o economi wedi methu. Pry’n bynnag, dwi ‘di prynnu bandsaw a thickensser newydd – gawn ni weld be ddwedan nhw! Oherwydd y pwrcasiad newydd, dwi wedi treulio’r deuddydd dwytha yn clirio a sortio gwerth 80(?) mlynedd o lanast er mwyn gwneud lle. Mae wedi cymryd bron iawn i flwyddyn i mi ffeindio’r amynedd i wneud hyn ond mae’n ben set felly rhaid yw rhaid a Ba! Sentimentaleiddiwch! medda finna. Mae yna gymaint o bethau dwi’n dod ar eu traws sydd wedi colli eu defnydd bellach fel na wyr neb be ddiawl ydyn nhw. Wrth gwrs, dwi’n tin droi wedyn am resymau teuluol ond faint o gysylltiad emosiynol fedrith rywun gael efo...