¡LUCHA CYMRU!

Arddangosfa Arbennig Y Lle Celf 2019

Mae’r modd y bedyddiwyd Orig Williams yn ‘El Bandito’ wrth ymaflyd yn Madison Square Garden oherwydd ‘he looks like a Mexican’ yn rhan o’r chwedloniaeth erbyn hyn. A hyd heddiw, mae rhai pobol, gyda thafod yn y boch, yn cyfeirio at Ysbyty Ifan fel ‘bandit country’, nid yn unig oherwydd enwogrwydd y reslwr ond oherwydd ar un adeg roedd Eglwys Sant Ioan yno yn noddfa i deithwyr ar eu pererindod i Ynys Enlli. Gan nad oedd cyfraith gwlad yn ymestyn at Ysbyty Ifan ymhen hir a hwyr dyma’r dihirod yn manteisio ar haelioni’r eglwys a throi’r lle, yn ôl Wynn o Wydir, yn ‘a receptacle of thieves and murderers’. I Rhodri Owen mae hyn yn cyfleu ryw syniad rhamantaidd o ddianc dros ffiniau, nid yn annhebyg i’r un a ddefnyddiwyd ganwaith mewn ffilmiau Western gyda’r cowbois – boed dda neu ddrwg – yn croesi’r ffin i ryddid yn El Paso neu y banditos Mecsicanaidd yn croesi yn ôl efo’u hysbail o New Mexico neu Texas. Yn ogystal, mae’n adlais o ysbryd annibynnol ei fro a’r Afon Conwy fel y Rio Grande yn yr achos yma.

Diolch i: CoRwst am ei nawdd; Gai Toms; Gerallt Llewelyn am ddefnydd helaeth o’i ffotograffau o’r cyfnod; OP Huws, Na Nog ac S4C am ganiatad i ddefnyddio’r gyfres ‘Reslo’; Moi Jones, Tir Glas, ac S4C am ganiatad i ddefnyddio’r rhaglen ‘Dogfennau Moi: Orig’; Stiwdio Sain; Owen Multimedia; TAPE Film & Music Cymunedol; BBC am ganiatad i ddefnyddio ‘O Glawr i Glawr’; Peter Nulty; Fusion Pro Wrestling; Tafarn Pen Y Bryn, Llanrwst; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; Robyn Tomos a Phwyllgor Celfyddydau Gweledol Sir Conwy am eu holl gefnogaeth.

Diolch arbennig i Wendy Williams, Tara Bethan ac El Bandito.

 

 

Orig Williams was baptised ‘El Bandito’ wrestling in Madison Square Garden in the 60s because “he looks like a Mexican”, or so the story goes. To this day, some people still refer to Ysbyty Ifan as ‘bandit country’, not only because of the popularity of the wrestler born there but because at one time St John’s Church in the village was a sanctuary for pilgrims on their way to Bardsey island. Because the rule of law didn’t extend into the parish of Ysbyty, the village soon became a “receptacle of thieves and murderes” as Wynn of Gwydir called it. To Rhodri Owen this creates a romantic idea of escaping over borders, not unlike those used a thousand times in Westerns with the cowboys and banditos crossing at El Paso to freedom on the other side. This is also an echo of the independent spirit of the Nant Conwy area, and the River Conwy like the Rio Grande in this case.

Thanks to: CoRwst for their sponsorship; Gai Toms; Gerallt Llewelyn for use of photography; OP Huws, Na Nog and S4C for use of the ‘Reslo’ series; Moi Jones, Tir Glas, and S4C for use of ‘Dogfennau Moi: Orig’; Stiwdio Sain; Owen Multimedia; TAPE Community Film & Music; BBC for use of ‘O Glawr i Glawr’; Peter Nulty; Fusion Pro Wrestling; Pen Y Bryn, Llanrwst; National Library of Wales; Robyn Tomos and Conwy visual arts committee for all their support.

Special thank you to Wendy Williams, Tara Bethan and El Bandito.