CELF | ART

Arddangosfa Arbennig Y Lle Celf 2019

Y Lle Celf special exhibition 2019

¡LUCHA CYMRU!

Arddangosfa arbennig Y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019 oedd ¡Lucha Cymru! ‘Migneint Western’ amlgyfrwng mewn gofod 11 medr x  8 medr yn chwarae â hanes Nant Conwy a reslo proffesiynol gyda’r cymeriad chwedlonol a’r reslar El Bandito Orig Williams o Ysbyty Ifan yn ganolbwynt y sioe.

¡Lucha Cymru! was Y Lle Celf’s special exhibition during 2019’s National Eisteddfod. A multimedia ‘Migneint Western’ in an 11 meters x 8 meters space, playing with the history of Nant Conwy and pro-wrestling, with the legendary wrestler and character El Bandito Orig Williams of Ysbyty Ifan the centerpiece of the show.

I'r Byw

Taith orielau 2018 | Exhibition tour 2018

Celf Dinistriol | Destructive Art

Mae Rhodri Owen yn rhyfeddu at ein tuedd gynyddol i edrych nôl, yn hiraethus gan amlaf, yn hytrach na chofleidio heddiw ac edrych ymlaen i’r dyfodol. Mae dau ystyr i I’r Byw – sut mae profiadau yn ein cyffwrdd yn emosiynol, ac hefyd symud y sylw o gofio’r gorffennol at y byw, at heddiw a’r dyfodol.

Rhodri Owen is intrigued by our increasing tendency to look back, often nostalgically, rather than embracing today and looking forward to the future. I’r Byw has two meanings – how our experiences touch us emotionally, and also shifting the focus from remembrance of the past to the living, to the here and now, and the future.

Eisteddfod Genedlaethol 2017

2017 National Eisteddfod Bardic Chair

Y Gadair | The Chair

Braint ac anrhydedd oedd creu Y Gadair ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017. Canmlwyddiant ers marwolaeth Hedd Wyn a Chadair Ddu Penybedw, roedd Rhodri a Pharc Cenedlaethol Eryri am gyflwyno cadair hyderus â neges gryf o edrych ymlaen i ddyfodol gwell.

It was an honour and a privilege to create the bardic chair for the 2017 National Eisteddfod. On the centenary of Hedd Wyn and the Birkinhead’s Black Chair, Rhodri and Snowdonia National Park wanted to present a confident design with a strong message of peace and looking forward to a better future.