Blogiad cyntaf…

Blogiad cyntaf…

Mae’r gweithdy yn hên. Ddim mor hên a 1904 oherwydd tydy fy nhaid (sy’n dal y fwyell yn y llun uchod) ddim wedi ei adeiladu eto. Ond rywbryd yn ystod y blynyddoedd canlynol, mi gododd yr adeilad sydd dal yn sefyll heddiw, ar lawr pridd lle mae’r trelar hwnnw yn sefyll rhwng y ddwy goeden yn y llun. Dydy’r llawr pridd ddim yno dim mwy, oherwydd i fy nhad osod sleepers rheilffordd yn lawr o un pen i’r llall rywbryd yn ystod y 60au neu’r 70au.

Be sy’n ddifyrach am y llun ydy’r prysurdeb naturiol sydd i’w weld a phawb a’i swydd mewn cymuned hollol hunan gynhaliol, a ddim rhamantu ydw i (wel ella chydig) ond dwi o’r farn nad ydy pentrefi cefn gwlad i fod yn ‘lefydd tawel’. Mae’r elusendai sydd yn y cefndir yn y llun bellach yn dai gwyliau, fel nifer o’r tai yn y pentre’, am fod rywun wedi gweld cyfle i ecsploitio harddwch naturiol a distawrwydd symptomatic o economi wedi methu. Pry’n bynnag, dwi ‘di prynnu bandsaw thickensser newydd – gawn ni weld be ddwedan nhw!

Oherwydd y pwrcasiad newydd, dwi wedi treulio’r deuddydd dwytha yn clirio a sortio gwerth 80(?) mlynedd o lanast er mwyn gwneud lle. Mae wedi cymryd bron iawn i flwyddyn i mi ffeindio’r amynedd i wneud hyn ond mae’n ben set felly rhaid yw rhaid a Ba! Sentimentaleiddiwch! medda finna. Mae yna gymaint o bethau dwi’n dod ar eu traws sydd wedi colli eu defnydd bellach fel na wyr neb be ddiawl ydyn nhw. Wrth gwrs, dwi’n tin droi wedyn am resymau teuluol ond faint o gysylltiad emosiynol fedrith rywun gael efo ryw hen betha ‘di rhydu efo handleni a’r pry wedi’u dryllio. Stop ac awe. Oedd pobol mor sentimental a hyn ers dalwm? Oedd bobol ers dalwm yn hiraethu am yr amser gynt (ddim dyna ydw i’n neud, ond mae’r ddau beth yn gysylltiedig)?

Bwrdd hen dderw

Wrth gwrs ma’r holl beth yn stori reit dda i mi, sentimentaleiddio neu beidio, er mwyn gwerthu dodrefn. Mae’r coed dwi’n ddefnyddio yn llawn hanes – distiau 300 oed o Nant Conwy. Ai ddim mewn i’r peth yn ormodol, oherwydd mae’r rheiny sy’n fy nilyn ar facebook a twitter wedi clywed y stori honno hyd syrffed! Ond er gwybodaeth, (am nad ydw i wedi cael gwneud llawer o waith coed yn y dyddiau dwytha’ yna mi ga’i frolio yn lle) – mae’r coed derw yn dod allan efo lliw a rhin arbennig yn perthyn iddyn nhw. Mae’n haws dangos – dyma un engraifft o fwrdd coffi wnes i gwsmer lleol yn ddiweddar…

20130909_123955

Mae’n rhyfeddol faint o bobol o wledydd eraill sydd wedi cysylltu a mi dros facebook am y lluniau dwi’n eu rhoi i fyny o’r dodrefn. Mae’n beth amlwg i ddweud mae’n siwr, ond mae’n hurt bost i feddwl mod i’n creu rywbeth mewn hen hen weithdy yng nghefn gwlad efo’r un offer a’r un dulliau traddodiadol oedd fy nhaid yn eu defnyddio fel saer troliau, ond yn siarad efo pobol o Norwy ac Efrog Newydd am y gwaith. Mae dau fyd a dwy oes yn cwrdd go iawn, a mae’n reit braf cael profi hynny.