I’r Byw // Manon Awst// Oriel Môn // Gwirfoddolwyr Archaeolegol

I’r Byw // Manon Awst// Oriel Môn // Gwirfoddolwyr Archaeolegol
Yn gyforiog o hanes mae Môn a’i harchaeoleg yn destun ysbrydoliaeth i haneswyr ac artistiaid. Yn wir roedd olion Celtaidd yr Ynys a siambr gladdu Barclodiad y Gawres a’i cherfiadau yn rhan o’r ysbrydoliaeth i ddatblygiad fy nghynllun innau ar gyfer Cadair Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn yn 2017.

Y dewis amlwg i arwain y gweithdy oedd Manon Awst, gyda’i phrofiad o gelf cysyniadol ynghyd â’i diddordeb mewn archaeoleg, ac hefyd ei gwaith academaidd yn pontio’r ddau faes.

With a wealth of historical riches, Anglesey and its archaeology have inspried historians and artists alike. Indeed, the island’s Celtic remains and the Barclodiad y Gawres burial chamber with its carvings part-inspired the development of my designs for the 2017 National Eisteddfod Chair.

The obvious choice to lead the workshop was Manon Awst, with her experience of conceptual art together with her interest in archaeology, as well as her academic work bridging both fields.

Fel yn y gweithdai eraill, byddai’r artist a’r grŵp – yn yr achos yma gwirfoddolwyr sy’n ymddiddori mewn archaeoleg a hanes hynafol Môn – yn cydweithio i newid darn o’m dodrefn.

Daeth profiadau aelodau’r grŵp yn cloddio neu ymweld â safleoedd o’r cyn-oesau yn ddigon naturiol i’r wyneb wrth gychwyn ar y gwaith. Cist fechan oedd y dodrefnyn, a’r grŵp yn ei hadnabod yn syth fel gofod caeëdig yn ymdebygu i feddrod neu arch – ond ddim yn hollol gaeëdig chwaith!

As in the other workshops, the artist and group – in this case volunteers with a deep interest in Anglesey’s archaeology and ancient history – would work together to change a piece of my furniture.

The group’s experiences in digging and visiting prehistoric sites came quite naturally to the fore as the work started. The furniture piece was a small coffer, with the group immediately identifying it as an enclosed space resembling a tomb or coffin – but not quite fully enclosed either!

Yn y fforwm celf a’r sioe Tu Hwnt/Far And Wide fe weithiodd Manon efo nifer o artistiaid eraill i ymchwilio’r gofod ym Marclodiad y Gawres. Roedd hyn yn cynnwys adlewyrchu golau’r haul i mewn i’r siambr mewn ffug-ddefod o groesawu pelydrau cyntaf heuldro’r haf.

O ystyried hyn a’r ffaith bod rhaid cael goriad o siop leol i gael mynediad i’r siambr, neu fel arall graffu drwy fariau haearn i’r duwch, penderfynwyd troi’r gist ar ei phen a thywyllu’r tu allan efo siarcol. Paentiwyd y tu mewn yn goch.

In the art forum and show Tu Hwnt/Far And Wide Manon worked with a number of other artists to explore the space at Barclodiad y Gawres. This included reflecting sunlight into the chamber in a mock ritual of welcoming the first rays of the summer solstice.

With this in mind, and the fact that you have to get the key from a local shop to gain entry to the chamber, or otherwise stare through metal bars into the blackness, the coffer was turned on its head and the outside darkened with charcoal. The inside was painted red.

Cafwyd y syniad wedyn o adleisio hen ddaeareg Cyngambraidd byd-enwog Môn gyda charreg o’r creigiau lleol yn cael ei hongian tu mewn i’r “beddrod” fel gwrthrych gwerthfawr. Aed ati i ddrilio tyllau yn ochrau’r gist cyn selio’r caead eto, mewn rhyw fath o angladd drosiadol.

Y canlyniad oedd darn o gelf yn amlygu pwysigrwydd tywyllwch a goleuni, a’r lliw coch hefyd yn yr hen, hen ddefodau byw a chladdu – gan ein cysylltu efo profiadau ein hynafiaid ninnau filoedd lawer o flynyddoedd yn ôl.

The next thought was to reflect Anglesey’s world-famous ancient Precambrian geology by taking a stone from local rocks and suspending it within the “tomb” as a precious object. Holes were then drilled into the sides of the coffer before resealing the lid in some kind of metaphorical funeral.

The result was an artwork revealing the importance of darkness and light, and also the colour red in those ancient life and burial rituals – and connecting us with the experiences of our own ancestors many thousands of years ago.

Mae’r tyllau yn ein gwahodd i edrych i mewn ond hefyd yn cyfyngu’n fwriadol ar be fedrwn ei weld – gan greu awyrgylch o ansicrwydd a dirgelwch nodweddiadol o feddylfryd yr oesoedd cynnar.

Tu mewn mae’r garreg yn hongian yn y canol, bron iawn fel pendil cloc, a’r profiad o geisio edrych arni yn un o chwilfrydedd rhwystredig gydag amser yn aros yn llonydd fel mewn beddrod fel Barclodiad y Gawres.

The holes invite us to look in but also deliberately restrict what we can see – creating an atmosphere of uncertainty and mystery charcteristic of the earliest times. Inside, the stone hangs in the centre, very like a clock pendulum, and the experience of trying to look at it is one of frustrated curiosity with time standing still as in a tomb like Barclodiad y Gawres.