Crewyd bwrdd o dderw ar gyfer y grŵp, yn arbennig fel gellid ei dynnu o’i gilydd ar gyfer y sesiwn. Mae’r artist gwydr, Bill Swann o Borthmadog, yn defnyddio technegau sandblastio i greu siapiau a llythrennau ar wyneb gwydr ac felly roedd angen cadw opsiynau ar agor ar gyfer ffitio unrhyw wydr i’r pren.
Mae Gerddi Bro Ddyfi yn elusen a gardd gymunedol therapiwtig sy’n hyrwyddo bywyd gwyllt a garddio i bawb yn ardal Bro Ddyfi ond yn enwedig y rheiny sydd dan fygythiad o allgau cymdeithasol.
An oak table was created for the group, especially so that it could be taken apart for the session. Bill Swann, the artist in glass from Porthmadog, uses sandblasting techniques to create shapes and lettering on glass surfaces and so we had to keep all options open for fitting any glass into the wood.
Gerddi Bro Ddyfi Gardens is a charitable organisation and a theraputic community garden that promotes wildlife and gardening for all in the Bro Ddyfi area but especially those threatened by social exclusion.
Yn y Ganolfan Dechnoleg Amgen (CAT) mae gwirfoddolwyr o bob rhan o’r byd yn dod i ddysgu am ffyrdd gwahanol, gwyrdd, a mwy bio-gyfeillgar o fyw.
Roedd y ddau grŵp yn siaradus iawn ac yn fwrlwm o syniadau, a dros ddau hanner diwrnod daeth pawb yn dipyn o ffrindiau a thrafodwyd nifer o syniadau efo’r bwrdd yn ganolbwynt i’r cyfan.
At the Centre for Alternative Technology (CAT) volunteers from all over the world come to learn about different, green and more bio-friendly ways of living.
Both groups were extremely talkative and a whirlpool of ideas, and over two half-days everyone became friends and discussed several ideas with the table at the centre of it all.
Y syniad tu ôl i’r darn terfynol ydi bod y coedyn yn cael ei droi yn ôl i sut roedd o cyn i’r llifiwr a’r saer gael gafael arno. Mae natur a choed yn hanfodol i waith CAT ac wrth galon gwaith criw’r Gerddi hefyd.
Bu llosgi a waldio a drilio a chrewyd paneli bach gwydr o siapiau a meddyliau i’w mewnosod yn y darn terfynol.
Behind the final piece is the idea of the wood being returned to its original state before the sawyer and carpenter got hold of it. Nature and trees are crucial to CAT’s work and also at the heart of the work of the Gardens crew.
Bydd cyfle i’r cyhoedd ychwanegu eu meddyliau hwy at y darn hwn yn yr arddangosfa fydd yn teithio Cymru o Ebrill 28ain ymlaen.
Burning, hammering and drilling took place and small glass panels of shapes and thoughts were created for setting into the final piece.