by Rhodri Owen | Mar 20, 2018 | Ir Byw
Mewn chwe awr, heb gynllun, mae ‘na bosibiliadau. Cwpwrdd bach a dau ddrws oedd i’w ddefnyddio fel canfas ar gyfer syniadau’r grŵp a’r artist. Pobl ifanc lleol sy’n cael eu cefnogi gan elusen GISDA i ddod dros amgylchiadau heriol ac i fyw’n annibynnol oedd aelodau’r grŵp, yn cydweithio efo’r artist Llŷr Alun Jones a minnau. Mae’n anodd weithiau mewn sesiynau grŵp i gychwyn a chael pobol i wneud y marc cynta’, felly dyma’r artist Llŷr Alun yn cymryd bwyell a chwalu’r pren llyfn efo un swing nerthol. Dyma ddinistrio i greu. In six hours, without a plan, there are possibilities. A small two-door cupboard was the canvas to be used for the group and artist’s ideas. Group members were local young people being supported by the GISDA charity to overcome challenging circumstances and to live independent lives. It’s sometimes difficult in group sessions to begin and to get people to make their first mark, so Llŷr Alun, the artist, took hold of an axe and shattered the smooth wood with one mighty swing. This was destruction to create. Yn organig rywsut dyma’r grŵp yn dechrau cymryd rhan, ac ar ôl y chwalu, dyma ail-adeiladu fel cadair. Daeth hyn yn eitha naturiol a’r siap yn awgrymu cadair uchel i blentyn. O drafod gwleidyddiaeth, anghyfiawnderau’r byd ac abswrdiaeth brenhiniaeth o unrhyw fath yn 2018 penderfynodd y grŵp a’r artist y byddai’r gadair yn gwneud gorsedd iawn i’r darpar frenin, y Tywysog Siôr. Organically somehow the group started to take part, and after the shattering started the reconstruction as a chair. This came quite naturally with the shape suggesting a child’s highchair....
by Rhodri Owen | Jan 26, 2016 | gwaith coed, woodworking
“Wel, mae Tyddyn Cwtyn y Ci yn Ysbyty Ifan. Tyddyn Cwtyn mae nhw’n ‘i alw fo. Rodd ‘no ryw ddyn yn byw yno. Clywed yr hanes wnes i; chlywais i ddim beth oedd enw’r dyn, yndê. Ond odd o’n byw yn Tyddyn Cwtyn y Ci. Ac odd o’n breuddwydio bob nos dase fo’n mynd i Bont Llunden byse fo’n gneud ‘i ffortiwn.” Pa mor bell fydda rhywun mewn pentref gwledig yn yr oes o’r blaen yn mynd i ddarganfod ysbrydoliaeth? Mae’n siwr bod traddodiad llenyddol yn gryfach na un celfydddydol yng Nghymru’r oes honno ond son am gelf yn benodol ydw i a chrefft fel modd i wneud celf. Dwi yn tueddu i feddwl allan yn uchel ar hwn ond tybiaf bod unrhyw ddylanwad Celtaidd, sef yr un mwya amlwg o ran synnwyr o berthyn wedi’i gladdu o bosib erbyn yr oes honno a’i ddylawnad hefyd ar wenuthuriad wedi hen fynd, ond eto mae dyluniadau troliau ac olwynion ac offer fel rhawiau mawn efo siapiau naturiol ddeniadol ynddyn nhw er bod y siapiau yno wedi’u creu i bwrpas arbennig – i weithio ryw ffordd arbennig ddim i edrych fel addurn. Oherwydd hyn dwi wedi bod yn meddwl ers dipyn y bysa defnyddio siap coes pladur fel templed mewn dyluniad bwrdd neu gadair yn gweithio’n dda. Mae’r siap yn ddeniadol i ddechrau arni, a mae’r syniad o ailbwrpasu yn apelio llawer yn enwedig os oes ryw ystyr arall yn cael ei roi iddo. Pa ffarmwr sy’n holi am goes pladur yn yr oes yma? Dim ryw lawer felly fydda i ddim yn eu gwneud nhw, ond eto mae’n bechod gweld...