I’r Byw // Storiel // Rebecca F. Hardy // Criw Celf

I’r Byw // Storiel // Rebecca F. Hardy // Criw Celf

Mae profiadau bywyd plentyn, fel unrhyw un arall, yn ddibynol ar eu sefyllfa. Dyma’r sesiwn yn Storiel yn ceisio casglu profiadau bywyd plant Criw Celf ym Mangor ar gyfer arddangosfa I’r Byw. Efallai bod rhywun yn diystyrru profiad bywyd plentyn oherwydd yr amser llai maen nhw wedi ei dreulio yn y byd hwn ond dim ond yn yr oed yma mae person yn wirioneddol gallu gweld y byd drwy lygaid plentyn. A child’s lexperience of life, like anyone else’s, depends on their circumstances. This is the session at Storiel attempting to capture the life experiences of Criw Celf children at Bangor for the I’r Byw exhibition. Perhaps we tend to discount a child’s life experiences because of the shorter time spent in this world but it’s only at this age that a person can really see the world through the eyes of a child. Roedd y gadair eitha syml wedi ei seilio ar ddwy gadair o gasgliad yr amgueddfa yn Storiel ac yn ryw fath o sgetsh mewn pren – prototeip o fath fyddai’n arwain at ddarn mwy gorffenedig. Wedi i’r criw sgetshio amrywiol ddarnau o’r casgliad gwych yn Storiel gwnaeth pawb ddarluniau llachar ar seloffên o’u profiadau o fywyd hyd yn hyn, a rhoddwyd hwy un dros y llall i greu un darn celf mawr o dan arweiniad Rebecca. The quite simple chair was based on two examples from the museum collection at Storiel and is some sort of a sketch in wood – a prototype version leading to a more finished piece. After the group sketched various pieces from Storiel’s excellent collection they all drew colourful images...
I’r Byw // Pip Woolf a Kirstin Claxton // Sain Ffagan // Hafal

I’r Byw // Pip Woolf a Kirstin Claxton // Sain Ffagan // Hafal

Mi fuodd I’r Byw yn ddigon ffodus i gael mynediad i’r stordy ar fore’r gweithdy yn Sain Ffagan, gyda’r grŵp yn sgetshio wrth glywed hanes y cadeiriau gan Sioned Williams, Prif Guradur Hanes Modern yr amgueddfa.  Fel gwneuthurwr dodrefn ac un sydd wedi creu cadair Eisteddfod Genedlaethol, mae casgliad cadeiriau eisteddfod Sain Ffagan yn wirioneddol werth eu gweld. Ro’n i wedi bod yno o’r blaen wrth gwrs, a’r gadair syml o dderw ar gyfer y grŵp wedi ei hysbrydoli yn rhannol gan y casgliad. I’r Byw was fortunate enough to gain entry to the storage on the morning of the workshop at St Fagans, with the group sketching whilst listening to the history of the chairs related by Sioned Williams, the museum’s Chief Curator of Modern History.  As a furniture-maker and one who’s created a National Eisteddfod Chair, the collection of eisteddfod chairs at St Fagans is truly something to behold. I had been there before of course, and the simple oak chair for the group was partly inspired by the collection. Y tro yma roeddwn i yno yng nghwmni grŵp, gyda’r aelodau yn cynnwys unigolion sy’n cael eu cefnogi gan Hafal, yr elusen iechyd meddwl sydd gyda safle wirfoddoli yn Sain Ffagan, yn ogystal ag arlunydd rhannol ddall a’i chi tywys – i gyd yn cydweithio dan arweiniad yr artistiaid Pip Woolf a Kirstin Claxton. Y syniad o groesholi dodrefn oedd man cychwyn y sesiwn. Roedd Pip a Kirsty yn awyddus i orchuddio’r gadair a chael y grŵp i’w harchwilio trwy ddefnyddio’r synhwyrau – wedi’r edrych, y clywed a’r sgetsio yn y storfa, dyna wedyn gyffwrdd trwy’r gorchudd...