by Rhodri Owen | Jan 21, 2018 | Ir Byw
Pan ddarfu’r diwydiannau trymion daeth yr angen am y dociau i ben, gan adael adfeilion a thlodi ar eu hôl. Bellach chwalwyd a chliriwyd ardaloedd eang, yn adeiladau diwydiant a masnach yn ogystal â chartrefi, ac yn sgîl hynny chwalwyd cymdeithas unigryw hefyd. Allan o’r chwalfa honno datblygodd Bae Caerdydd fel y mae heddiw. With the terminal decline of the heavy industries the need for the docks came to an end, leaving dereliction and poverty in their wake. Since then large swathes of buildings have been demolished, both industrial and commercial as well as homes, and as a result a unique community was also torn apart. From that upheaval Cardiff Bay developed to be to what it is today. Er moderneiddio a pharchuso’r hen Tiger Bay, mae rhai hen deuluoedd â chysylltiadau cryf â’r gorffennol yn dal yn byw ac yn gweithio yn yr ardal hanesyddol hon. Pleser oedd cydweithio â’r artist Lisa-marie Tann a sawl cenhedlaeth o un o’r teuluoedd hynny i weddnewid cwpwrdd pîn i adlewyrchu eu profiadau a’u hanes fel teulu. Despite the modernisation and the gentrification of the old Tiger Bay, some old families with strong connections to its past still live and work in this historic area. It was a pleasure to work with artist Lisa-marie Tann and several generations of one such family to transform a pine cupboard to reflect their history and experiences as a family. Cychwyn y dydd oedd mynd allan efo camerau a ffonau symudol i dynnu lluniau o gwmpas y Bae, gydag aelodau’r grŵp yn edrych ar yr ardal trwy eu llygaid eu hunain, ac felly efo rheolaeth uniongyrchol...