I’r Byw // Christine Mills // Y Lle Celf 2017

I’r Byw // Christine Mills // Y Lle Celf 2017

Ynghanol prysurdeb Eisteddfod Môn a’r Gadair, cynhaliwyd gweithdy cyntaf I’r Byw yn Y Lle Celf, un o wyth ar draws Cymru. Anrhydedd mawr oedd cynnal y gweithdy drop in mewn safle sy’n arddangos y gorau o gelf cyfoes Cymru, a gwych iawn oedd cael yr artist nodedig, rhyngwladol Christine Mills yn cyd-weithio i drawsnewid un o ddau fwrdd o’m gwaith “yn fyw” yn y fan a’r lle mewn diwrnod. Roedd croeso i unrhyw un ymuno â’r sesiwn a chasglwyd nifer o syniadau a phrofiadau gan Eisteddfodwyr o bedwar ban byd. Profiad yr unigolyn a phrofiad bywyd grwpiau o bobol ydi’r prif syniad tu ôl i I’r Byw, a bydd y casgliad cyfa ar y diwedd o ddodrefn wedi, a heb eu trawsnewid, i’w weld ar daith o amgylch Cymru o ddiwedd Ebrill 2018 ymlaen.  Man cyfarfod ydi bwrdd efo nifer o benderfyniadau bach a mawr y byd wedi eu gwneud rhwng ffrindiau, cariadon a gelynion o amgylch y dodrefnyn syml yma.  “Mae yne rywbeth intimate iawn am fwrdd.” Meddai Christine Mills  “Yn yr achos yma lle i ddau sydd yna, a ma rywyn yn meddwl am arweinwyr gwledydd, a gwrthdaro, yn enwedig o gofio’r flwyddyn a chanrif ers marwolaeth Hedd Wyn a’r Gadair Ddu.” Mae Christine yn defnyddio gwlân yn ei gwaith, gan creu creadigaethau fel Y Gorchudd Llwch oedd i’w weld yn Y Lle Celf eleni. Gorchudd enfawr oedd hwn wedi ei greu o wlân Yr Ysgwrn. Yn ôl Sara Rhoslyn Moore yn Planet– “Mae’r gragen o’r Gadair Ddu ar ei blinth, yn atgoffa rhywun o orsedd, a’r angen i ddwyn y rheiny sydd mewn grym i gyfrif...
I’r Byw // Manon Awst// Oriel Môn // Gwirfoddolwyr Archaeolegol

I’r Byw // Manon Awst// Oriel Môn // Gwirfoddolwyr Archaeolegol

Yn gyforiog o hanes mae Môn a’i harchaeoleg yn destun ysbrydoliaeth i haneswyr ac artistiaid. Yn wir roedd olion Celtaidd yr Ynys a siambr gladdu Barclodiad y Gawres a’i cherfiadau yn rhan o’r ysbrydoliaeth i ddatblygiad fy nghynllun innau ar gyfer Cadair Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn yn 2017. Y dewis amlwg i arwain y gweithdy oedd Manon Awst, gyda’i phrofiad o gelf cysyniadol ynghyd â’i diddordeb mewn archaeoleg, ac hefyd ei gwaith academaidd yn pontio’r ddau faes. With a wealth of historical riches, Anglesey and its archaeology have inspried historians and artists alike. Indeed, the island’s Celtic remains and the Barclodiad y Gawres burial chamber with its carvings part-inspired the development of my designs for the 2017 National Eisteddfod Chair. The obvious choice to lead the workshop was Manon Awst, with her experience of conceptual art together with her interest in archaeology, as well as her academic work bridging both fields. Fel yn y gweithdai eraill, byddai’r artist a’r grŵp – yn yr achos yma gwirfoddolwyr sy’n ymddiddori mewn archaeoleg a hanes hynafol Môn – yn cydweithio i newid darn o’m dodrefn. Daeth profiadau aelodau’r grŵp yn cloddio neu ymweld â safleoedd o’r cyn-oesau yn ddigon naturiol i’r wyneb wrth gychwyn ar y gwaith. Cist fechan oedd y dodrefnyn, a’r grŵp yn ei hadnabod yn syth fel gofod caeëdig yn ymdebygu i feddrod neu arch – ond ddim yn hollol gaeëdig chwaith! As in the other workshops, the artist and group – in this case volunteers with a deep interest in Anglesey’s archaeology and ancient history – would work together to change a piece of my furniture. The group’s...