I’r Byw // Catrin Williams // Yr Ysgwrn

I’r Byw // Catrin Williams // Yr Ysgwrn

Ar ddiwrnod tu hwnt o lwyd, glwyb a gwyntog ganol gaea’ yn Yr Ysgwrn dyma weddnewid mainc bîn yn greadigaeth seicadelig liwgar efo’r artist Catrin Williams a grŵp o wirfoddolwyr Yr Ysgwrn. An extraordinarily grey, wet and windy day in deepest winter at Yr Ysgwrn saw a pine bench transformed into a colourful psychedelic creation with artist Catrin Williams and a group of Yr Ysgwrn volunteers. Y man cychwyn oedd ardal Trawsfynydd, yr Ysgwrn a’i bapur wal, yr atomfa niwclear a lluniau o’i gwifrau a phaneli rheoli, yn ogystal â’r grŵp pop lleol enwog o’r 60au – Y Pelydrau. The starting point was the Trawsfynydd area, Yr Ysgwrn and its wallpaper, the nuclear powerstation and images of its wires and control panels as well as the famous local 60s pop group – Y Pelydrau (meaning rays). Roedd profiadau’r grŵp yn amrywio o’r byd amaeth yn Nghymru i fyw yng Nghanada a theithio Mecsico a De America, ac mae’r canlyniad lliwgar o bosib yn dangos dylanwad y glwedydd hynny hefyd. Experiences within the group varied from farming in Wales to living in Canada and travelling in Mexico and South America, and the colourful result is possibly influenced by these countries too. Mae mis Ionawr yn fis tywyll, ond roedd y grŵp a’r artist a minnau yn benderfynol o gwffio’r llwydni tu allan efo darn lliwgar oedd yn cymryd yr elfennau uchod i gyd i ystyriaeth. January is a dark month, but the group, the artist and myself were determined to battle against the greyness outside with a colourful piece that encompassed the above elements. Tra bod Yr Ysgwrn yn ganolfan...
I’r Byw // Christine Mills // Y Lle Celf 2017

I’r Byw // Christine Mills // Y Lle Celf 2017

Ynghanol prysurdeb Eisteddfod Môn a’r Gadair, cynhaliwyd gweithdy cyntaf I’r Byw yn Y Lle Celf, un o wyth ar draws Cymru. Anrhydedd mawr oedd cynnal y gweithdy drop in mewn safle sy’n arddangos y gorau o gelf cyfoes Cymru, a gwych iawn oedd cael yr artist nodedig, rhyngwladol Christine Mills yn cyd-weithio i drawsnewid un o ddau fwrdd o’m gwaith “yn fyw” yn y fan a’r lle mewn diwrnod. Roedd croeso i unrhyw un ymuno â’r sesiwn a chasglwyd nifer o syniadau a phrofiadau gan Eisteddfodwyr o bedwar ban byd. Profiad yr unigolyn a phrofiad bywyd grwpiau o bobol ydi’r prif syniad tu ôl i I’r Byw, a bydd y casgliad cyfa ar y diwedd o ddodrefn wedi, a heb eu trawsnewid, i’w weld ar daith o amgylch Cymru o ddiwedd Ebrill 2018 ymlaen.  Man cyfarfod ydi bwrdd efo nifer o benderfyniadau bach a mawr y byd wedi eu gwneud rhwng ffrindiau, cariadon a gelynion o amgylch y dodrefnyn syml yma.  “Mae yne rywbeth intimate iawn am fwrdd.” Meddai Christine Mills  “Yn yr achos yma lle i ddau sydd yna, a ma rywyn yn meddwl am arweinwyr gwledydd, a gwrthdaro, yn enwedig o gofio’r flwyddyn a chanrif ers marwolaeth Hedd Wyn a’r Gadair Ddu.” Mae Christine yn defnyddio gwlân yn ei gwaith, gan creu creadigaethau fel Y Gorchudd Llwch oedd i’w weld yn Y Lle Celf eleni. Gorchudd enfawr oedd hwn wedi ei greu o wlân Yr Ysgwrn. Yn ôl Sara Rhoslyn Moore yn Planet– “Mae’r gragen o’r Gadair Ddu ar ei blinth, yn atgoffa rhywun o orsedd, a’r angen i ddwyn y rheiny sydd mewn grym i gyfrif...