Tyddyn Cwtyn y Ci

Tyddyn Cwtyn y Ci

“Wel, mae Tyddyn Cwtyn y Ci yn Ysbyty Ifan. Tyddyn Cwtyn mae nhw’n ‘i alw fo. Rodd ‘no ryw ddyn yn byw yno. Clywed yr hanes wnes i; chlywais i ddim beth oedd enw’r dyn, yndê. Ond odd o’n byw yn Tyddyn Cwtyn y Ci. Ac odd o’n breuddwydio bob nos dase fo’n mynd i Bont Llunden byse fo’n gneud ‘i ffortiwn.” Pa mor bell fydda rhywun mewn pentref gwledig yn yr oes o’r blaen yn mynd i ddarganfod ysbrydoliaeth? Mae’n siwr bod traddodiad llenyddol yn gryfach na un celfydddydol yng Nghymru’r oes honno ond son am gelf yn benodol ydw i a chrefft fel modd i wneud celf. Dwi yn tueddu i feddwl allan yn uchel ar hwn ond tybiaf bod unrhyw ddylanwad Celtaidd, sef yr un mwya amlwg o ran synnwyr o berthyn wedi’i gladdu o bosib erbyn yr oes honno a’i ddylawnad hefyd ar wenuthuriad wedi hen fynd, ond eto mae dyluniadau troliau ac olwynion ac offer fel rhawiau mawn efo siapiau naturiol ddeniadol ynddyn nhw er bod y siapiau yno wedi’u creu i bwrpas arbennig – i weithio ryw ffordd arbennig ddim i edrych fel addurn. Oherwydd hyn dwi wedi bod yn meddwl ers dipyn y bysa defnyddio siap coes pladur fel templed mewn dyluniad bwrdd neu gadair yn gweithio’n dda. Mae’r siap yn ddeniadol i ddechrau arni, a mae’r syniad o ailbwrpasu yn apelio llawer yn enwedig os oes ryw ystyr arall yn cael ei roi iddo. Pa ffarmwr sy’n holi am goes pladur yn yr oes yma? Dim ryw lawer felly fydda i ddim yn eu gwneud nhw, ond eto mae’n bechod gweld...