by Rhodri Owen | Mar 20, 2018 | Ir Byw
Mewn chwe awr, heb gynllun, mae ‘na bosibiliadau. Cwpwrdd bach a dau ddrws oedd i’w ddefnyddio fel canfas ar gyfer syniadau’r grŵp a’r artist. Pobl ifanc lleol sy’n cael eu cefnogi gan elusen GISDA i ddod dros amgylchiadau heriol ac i fyw’n annibynnol oedd aelodau’r grŵp, yn cydweithio efo’r artist Llŷr Alun Jones a minnau. Mae’n anodd weithiau mewn sesiynau grŵp i gychwyn a chael pobol i wneud y marc cynta’, felly dyma’r artist Llŷr Alun yn cymryd bwyell a chwalu’r pren llyfn efo un swing nerthol. Dyma ddinistrio i greu. In six hours, without a plan, there are possibilities. A small two-door cupboard was the canvas to be used for the group and artist’s ideas. Group members were local young people being supported by the GISDA charity to overcome challenging circumstances and to live independent lives. It’s sometimes difficult in group sessions to begin and to get people to make their first mark, so Llŷr Alun, the artist, took hold of an axe and shattered the smooth wood with one mighty swing. This was destruction to create. Yn organig rywsut dyma’r grŵp yn dechrau cymryd rhan, ac ar ôl y chwalu, dyma ail-adeiladu fel cadair. Daeth hyn yn eitha naturiol a’r siap yn awgrymu cadair uchel i blentyn. O drafod gwleidyddiaeth, anghyfiawnderau’r byd ac abswrdiaeth brenhiniaeth o unrhyw fath yn 2018 penderfynodd y grŵp a’r artist y byddai’r gadair yn gwneud gorsedd iawn i’r darpar frenin, y Tywysog Siôr. Organically somehow the group started to take part, and after the shattering started the reconstruction as a chair. This came quite naturally with the shape suggesting a child’s highchair....
by Rhodri Owen | Mar 20, 2018 | Ir Byw
Mae profiadau bywyd plentyn, fel unrhyw un arall, yn ddibynol ar eu sefyllfa. Dyma’r sesiwn yn Storiel yn ceisio casglu profiadau bywyd plant Criw Celf ym Mangor ar gyfer arddangosfa I’r Byw. Efallai bod rhywun yn diystyrru profiad bywyd plentyn oherwydd yr amser llai maen nhw wedi ei dreulio yn y byd hwn ond dim ond yn yr oed yma mae person yn wirioneddol gallu gweld y byd drwy lygaid plentyn. A child’s lexperience of life, like anyone else’s, depends on their circumstances. This is the session at Storiel attempting to capture the life experiences of Criw Celf children at Bangor for the I’r Byw exhibition. Perhaps we tend to discount a child’s life experiences because of the shorter time spent in this world but it’s only at this age that a person can really see the world through the eyes of a child. Roedd y gadair eitha syml wedi ei seilio ar ddwy gadair o gasgliad yr amgueddfa yn Storiel ac yn ryw fath o sgetsh mewn pren – prototeip o fath fyddai’n arwain at ddarn mwy gorffenedig. Wedi i’r criw sgetshio amrywiol ddarnau o’r casgliad gwych yn Storiel gwnaeth pawb ddarluniau llachar ar seloffên o’u profiadau o fywyd hyd yn hyn, a rhoddwyd hwy un dros y llall i greu un darn celf mawr o dan arweiniad Rebecca. The quite simple chair was based on two examples from the museum collection at Storiel and is some sort of a sketch in wood – a prototype version leading to a more finished piece. After the group sketched various pieces from Storiel’s excellent collection they all drew colourful images...
by Rhodri Owen | Mar 19, 2018 | Ir Byw
Ynghanol prysurdeb Eisteddfod Môn a’r Gadair, cynhaliwyd gweithdy cyntaf I’r Byw yn Y Lle Celf, un o wyth ar draws Cymru. Anrhydedd mawr oedd cynnal y gweithdy drop in mewn safle sy’n arddangos y gorau o gelf cyfoes Cymru, a gwych iawn oedd cael yr artist nodedig, rhyngwladol Christine Mills yn cyd-weithio i drawsnewid un o ddau fwrdd o’m gwaith “yn fyw” yn y fan a’r lle mewn diwrnod. Roedd croeso i unrhyw un ymuno â’r sesiwn a chasglwyd nifer o syniadau a phrofiadau gan Eisteddfodwyr o bedwar ban byd. Profiad yr unigolyn a phrofiad bywyd grwpiau o bobol ydi’r prif syniad tu ôl i I’r Byw, a bydd y casgliad cyfa ar y diwedd o ddodrefn wedi, a heb eu trawsnewid, i’w weld ar daith o amgylch Cymru o ddiwedd Ebrill 2018 ymlaen. Man cyfarfod ydi bwrdd efo nifer o benderfyniadau bach a mawr y byd wedi eu gwneud rhwng ffrindiau, cariadon a gelynion o amgylch y dodrefnyn syml yma. “Mae yne rywbeth intimate iawn am fwrdd.” Meddai Christine Mills “Yn yr achos yma lle i ddau sydd yna, a ma rywyn yn meddwl am arweinwyr gwledydd, a gwrthdaro, yn enwedig o gofio’r flwyddyn a chanrif ers marwolaeth Hedd Wyn a’r Gadair Ddu.” Mae Christine yn defnyddio gwlân yn ei gwaith, gan creu creadigaethau fel Y Gorchudd Llwch oedd i’w weld yn Y Lle Celf eleni. Gorchudd enfawr oedd hwn wedi ei greu o wlân Yr Ysgwrn. Yn ôl Sara Rhoslyn Moore yn Planet– “Mae’r gragen o’r Gadair Ddu ar ei blinth, yn atgoffa rhywun o orsedd, a’r angen i ddwyn y rheiny sydd mewn grym i gyfrif...
by Rhodri Owen | Jan 21, 2018 | Ir Byw
Yn gyforiog o hanes mae Môn a’i harchaeoleg yn destun ysbrydoliaeth i haneswyr ac artistiaid. Yn wir roedd olion Celtaidd yr Ynys a siambr gladdu Barclodiad y Gawres a’i cherfiadau yn rhan o’r ysbrydoliaeth i ddatblygiad fy nghynllun innau ar gyfer Cadair Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn yn 2017. Y dewis amlwg i arwain y gweithdy oedd Manon Awst, gyda’i phrofiad o gelf cysyniadol ynghyd â’i diddordeb mewn archaeoleg, ac hefyd ei gwaith academaidd yn pontio’r ddau faes. With a wealth of historical riches, Anglesey and its archaeology have inspried historians and artists alike. Indeed, the island’s Celtic remains and the Barclodiad y Gawres burial chamber with its carvings part-inspired the development of my designs for the 2017 National Eisteddfod Chair. The obvious choice to lead the workshop was Manon Awst, with her experience of conceptual art together with her interest in archaeology, as well as her academic work bridging both fields. Fel yn y gweithdai eraill, byddai’r artist a’r grŵp – yn yr achos yma gwirfoddolwyr sy’n ymddiddori mewn archaeoleg a hanes hynafol Môn – yn cydweithio i newid darn o’m dodrefn. Daeth profiadau aelodau’r grŵp yn cloddio neu ymweld â safleoedd o’r cyn-oesau yn ddigon naturiol i’r wyneb wrth gychwyn ar y gwaith. Cist fechan oedd y dodrefnyn, a’r grŵp yn ei hadnabod yn syth fel gofod caeëdig yn ymdebygu i feddrod neu arch – ond ddim yn hollol gaeëdig chwaith! As in the other workshops, the artist and group – in this case volunteers with a deep interest in Anglesey’s archaeology and ancient history – would work together to change a piece of my furniture. The group’s...
by Rhodri Owen | Jan 21, 2018 | Ir Byw
Pan ddarfu’r diwydiannau trymion daeth yr angen am y dociau i ben, gan adael adfeilion a thlodi ar eu hôl. Bellach chwalwyd a chliriwyd ardaloedd eang, yn adeiladau diwydiant a masnach yn ogystal â chartrefi, ac yn sgîl hynny chwalwyd cymdeithas unigryw hefyd. Allan o’r chwalfa honno datblygodd Bae Caerdydd fel y mae heddiw. With the terminal decline of the heavy industries the need for the docks came to an end, leaving dereliction and poverty in their wake. Since then large swathes of buildings have been demolished, both industrial and commercial as well as homes, and as a result a unique community was also torn apart. From that upheaval Cardiff Bay developed to be to what it is today. Er moderneiddio a pharchuso’r hen Tiger Bay, mae rhai hen deuluoedd â chysylltiadau cryf â’r gorffennol yn dal yn byw ac yn gweithio yn yr ardal hanesyddol hon. Pleser oedd cydweithio â’r artist Lisa-marie Tann a sawl cenhedlaeth o un o’r teuluoedd hynny i weddnewid cwpwrdd pîn i adlewyrchu eu profiadau a’u hanes fel teulu. Despite the modernisation and the gentrification of the old Tiger Bay, some old families with strong connections to its past still live and work in this historic area. It was a pleasure to work with artist Lisa-marie Tann and several generations of one such family to transform a pine cupboard to reflect their history and experiences as a family. Cychwyn y dydd oedd mynd allan efo camerau a ffonau symudol i dynnu lluniau o gwmpas y Bae, gydag aelodau’r grŵp yn edrych ar yr ardal trwy eu llygaid eu hunain, ac felly efo rheolaeth uniongyrchol...