by Rhodri Owen | Jan 21, 2018 | Ir Byw
Crewyd bwrdd o dderw ar gyfer y grŵp, yn arbennig fel gellid ei dynnu o’i gilydd ar gyfer y sesiwn. Mae’r artist gwydr, Bill Swann o Borthmadog, yn defnyddio technegau sandblastio i greu siapiau a llythrennau ar wyneb gwydr ac felly roedd angen cadw opsiynau ar agor ar gyfer ffitio unrhyw wydr i’r pren. Mae Gerddi Bro Ddyfi yn elusen a gardd gymunedol therapiwtig sy’n hyrwyddo bywyd gwyllt a garddio i bawb yn ardal Bro Ddyfi ond yn enwedig y rheiny sydd dan fygythiad o allgau cymdeithasol. An oak table was created for the group, especially so that it could be taken apart for the session. Bill Swann, the artist in glass from Porthmadog, uses sandblasting techniques to create shapes and lettering on glass surfaces and so we had to keep all options open for fitting any glass into the wood. Gerddi Bro Ddyfi Gardens is a charitable organisation and a theraputic community garden that promotes wildlife and gardening for all in the Bro Ddyfi area but especially those threatened by social exclusion. Yn y Ganolfan Dechnoleg Amgen (CAT) mae gwirfoddolwyr o bob rhan o’r byd yn dod i ddysgu am ffyrdd gwahanol, gwyrdd, a mwy bio-gyfeillgar o fyw. Roedd y ddau grŵp yn siaradus iawn ac yn fwrlwm o syniadau, a dros ddau hanner diwrnod daeth pawb yn dipyn o ffrindiau a thrafodwyd nifer o syniadau efo’r bwrdd yn ganolbwynt i’r cyfan. At the Centre for Alternative Technology (CAT) volunteers from all over the world come to learn about different, green and more bio-friendly ways of living. Both groups were extremely talkative and a whirlpool of ideas, and...