by Rhodri Owen | Jan 19, 2018 | Ir Byw
Mi fuodd I’r Byw yn ddigon ffodus i gael mynediad i’r stordy ar fore’r gweithdy yn Sain Ffagan, gyda’r grŵp yn sgetshio wrth glywed hanes y cadeiriau gan Sioned Williams, Prif Guradur Hanes Modern yr amgueddfa. Fel gwneuthurwr dodrefn ac un sydd wedi creu cadair Eisteddfod Genedlaethol, mae casgliad cadeiriau eisteddfod Sain Ffagan yn wirioneddol werth eu gweld. Ro’n i wedi bod yno o’r blaen wrth gwrs, a’r gadair syml o dderw ar gyfer y grŵp wedi ei hysbrydoli yn rhannol gan y casgliad. I’r Byw was fortunate enough to gain entry to the storage on the morning of the workshop at St Fagans, with the group sketching whilst listening to the history of the chairs related by Sioned Williams, the museum’s Chief Curator of Modern History. As a furniture-maker and one who’s created a National Eisteddfod Chair, the collection of eisteddfod chairs at St Fagans is truly something to behold. I had been there before of course, and the simple oak chair for the group was partly inspired by the collection. Y tro yma roeddwn i yno yng nghwmni grŵp, gyda’r aelodau yn cynnwys unigolion sy’n cael eu cefnogi gan Hafal, yr elusen iechyd meddwl sydd gyda safle wirfoddoli yn Sain Ffagan, yn ogystal ag arlunydd rhannol ddall a’i chi tywys – i gyd yn cydweithio dan arweiniad yr artistiaid Pip Woolf a Kirstin Claxton. Y syniad o groesholi dodrefn oedd man cychwyn y sesiwn. Roedd Pip a Kirsty yn awyddus i orchuddio’r gadair a chael y grŵp i’w harchwilio trwy ddefnyddio’r synhwyrau – wedi’r edrych, y clywed a’r sgetsio yn y storfa, dyna wedyn gyffwrdd trwy’r gorchudd...