I’r Byw // Christine Mills // Y Lle Celf 2017

I’r Byw // Christine Mills // Y Lle Celf 2017

Ynghanol prysurdeb Eisteddfod Môn a’r Gadair, cynhaliwyd gweithdy cyntaf I’r Byw yn Y Lle Celf, un o wyth ar draws Cymru. Anrhydedd mawr oedd cynnal y gweithdy drop in mewn safle sy’n arddangos y gorau o gelf cyfoes Cymru, a gwych iawn oedd cael yr artist nodedig, rhyngwladol Christine Mills yn cyd-weithio i drawsnewid un o ddau fwrdd o’m gwaith “yn fyw” yn y fan a’r lle mewn diwrnod. Roedd croeso i unrhyw un ymuno â’r sesiwn a chasglwyd nifer o syniadau a phrofiadau gan Eisteddfodwyr o bedwar ban byd. Profiad yr unigolyn a phrofiad bywyd grwpiau o bobol ydi’r prif syniad tu ôl i I’r Byw, a bydd y casgliad cyfa ar y diwedd o ddodrefn wedi, a heb eu trawsnewid, i’w weld ar daith o amgylch Cymru o ddiwedd Ebrill 2018 ymlaen.  Man cyfarfod ydi bwrdd efo nifer o benderfyniadau bach a mawr y byd wedi eu gwneud rhwng ffrindiau, cariadon a gelynion o amgylch y dodrefnyn syml yma.  “Mae yne rywbeth intimate iawn am fwrdd.” Meddai Christine Mills  “Yn yr achos yma lle i ddau sydd yna, a ma rywyn yn meddwl am arweinwyr gwledydd, a gwrthdaro, yn enwedig o gofio’r flwyddyn a chanrif ers marwolaeth Hedd Wyn a’r Gadair Ddu.” Mae Christine yn defnyddio gwlân yn ei gwaith, gan creu creadigaethau fel Y Gorchudd Llwch oedd i’w weld yn Y Lle Celf eleni. Gorchudd enfawr oedd hwn wedi ei greu o wlân Yr Ysgwrn. Yn ôl Sara Rhoslyn Moore yn Planet– “Mae’r gragen o’r Gadair Ddu ar ei blinth, yn atgoffa rhywun o orsedd, a’r angen i ddwyn y rheiny sydd mewn grym i gyfrif...
Mwynder Maldwyn // Eisteddfod 2015

Mwynder Maldwyn // Eisteddfod 2015

Dyna be oedd wythnos. Fel arfer i mi mae’r Eisteddfod yn wythnos o fwynhau, yfed, cyfarfod pobol newydd, cyfarfod hen ffrindiau, rwdlan, bandiau, barddoniaeth, campio, diffyg cwsg, dod i adnabod ardal newydd, profiadau emosiynol sy’n aros am chydig o fisoedd wedyn, celf a thomen o brofiadau eraill. Afraid dweud – ticiwyd y bocsys arferol ond y tro hwn ar ben y cowdel emosiynol a blinedig yma – roedd gen i stondin ar y maes am y tro cyntaf erioed. Well, that was something. Usualy, for me, the Eisteddfod means a week of enjoying, drinking, meeting new people, meeting old friends, talking nonsense, bands, poetry, camping, sleep deprevation, getting to know a new area, emotional experiences that last a few months after, art and a pile of other things. No need to say all boxes were ticked this time as well only this time I had a stall on the Maes. Roedd o’n gyfle arbennig a mi dreulais i wythnosau yn creu stoc newydd a gwahanol i’w arddangos ar lwyfan mwyaf Cymru a bu’n werth bob munud o waith. Ar y stondin yn y neuadd arddangos, roedd siarad am fy ngwaith am wythnos gyfa yn hwb mawr i mi fel crefftwr a mi fyswn yn ei argymell i unrhyw un. Heb son am werthiant, mae’r syniadau creadigol a ddaeth yn sgîl siarad a phwyso a mesur ymateb pobol i fy ngwaith yn amhrisiadwy. Sy’n oglygu y bydd llawer mwy i ddod. This was an amazing oppurtunity and I spent weeks creating new and different stock to exhibit in the largest festival of competitive music and poetry in Europe. On the...