by Rhodri Owen | Dec 31, 2015 | gwaith coed, woodworking
Diwrnod ola’r flwyddyn a mae pawb i weld yn disgyn dros eu gilydd i wneud ryw fath o adolygiad o’r flwyddyn a fu, boed yn fusnes neu unigolyn. Dwi ddim am wneud hynny a dwi’m yn meddwl bod neb eisiau gwybod mewn gwirionedd pry’n bynnag. Er hynny dwi yn teimlo’r angen i sgwennu rywbeth achos mae gen i lawer i fod yn ddiolchgar amdano a llawer o bethau i edrych ymlaen atyn nhw yn 2016. Bron i dair mlynedd i mewn – fedra i ddweud a llaw ar fy nghalon mai cychwyn y busnes yma ydi’r peth anoddaf dwi erioed wedi ei wneud a fyswn i wedi medru rhoi’r ffidil yn y tô nifer o weithiau ond dwi’n gwybod petawn i wedi, y byswn i’n difaru. Bum mlynedd yn ôl fyswn i ddim wedi medru llifio’n syth heb son am unrhyw beth arall ond dwi’n gweld datblygiad creadigol yn fy ngwaith a ffordd o feddwl drwy’r adeg a mae dysgu gymaint o ddydd i ddydd yn rywbeth na fedra i ffeirio yn ôl am ddiwrnod naw tan bump arferol bellach – fedra i ddim. A mae gweithio i fi fy hun y teimlad gorau erioed. Dwi hefyd yn falch iawn o weld busnesau ‘band un dyn/dynes’ eraill creadigol o’r safon uchaf yn yr ardal yn gwneud cystal. Parch. Os oes yna rywun talentog a phenderfynol efo dipyn o ardddeliad iddyn nhw yn darllen hwn ac yn meddwl gwneud rywbeth tebyg – gnwewch o i’r diawl. Fues i’n ddigon gwirion, a dwi’n dra diolchgar am hynny. Yn ystod y flwyddyn nesa’ dwi am ddechrau dylunio casgliad ychydig yn wahanol, fydd...