Siabod

Siabod

Pwrpas y blog yma ydi taflu syniadau dylunio ar bapur a chael gweld be sy’n sdicio – ryw feddwl allan yn uchel a chwilio am ysbrydoliaeth ym mhob agwedd o Eryri. Os dio’n gneud synnwyr – gret! Os ddim, yna dwi ddim am honni ei fod o fod i. Dwi wedi byw yn Eryri yn rhywle neu’i gilydd fwy neu lai ar hyd fy oes – efo un neu ddau o detours at y môr ar y ffordd. Ddim mod i’n hen iawn chwaith cofiwch, ddigon hen i gofio pan odd lampa paraffîn a shellsuits yn thing ac yn ddigon ifanc i beidio a rhamantu gormod am y gorffennol. This blog’s purpose is to throw design ideas around, thinking out aloud whilst finding inspiration from all aspects of Snowdonia. If it makes sense, then great! If it doesn’t then I’m not going to claim that it was meant to. I’ve lived in Snowdonia national park more or less all my life, with a couple of detours to the sea on the way. Not that I’m that old, old enough to remember paraffin lamps and shellsuits and young enough to not romanticize about the past. Er ein bod ni, fel plant yn yr 80au wedi arfer bod allan ymhob tywydd, roedd cerdded a mynydda yn rywbeth oedd pobol eraill yn ei wneud os oedden nhw ddigon gwirion i fynd. Saeson masiwr. I drio unioni y ffaith na fues i fyny ryw lawer o ddim tra on i’n fengach dwi wedi bod ers ambell i flwyddyn yn bygwth dringo amryw i fynydd sydd yn dal i fod ar stepan drws. Dyma...
Edrych ymlaen – Looking Forward

Edrych ymlaen – Looking Forward

Diwrnod ola’r flwyddyn a mae pawb i weld yn disgyn dros eu gilydd i wneud ryw fath o adolygiad o’r flwyddyn a fu, boed yn fusnes neu unigolyn. Dwi ddim am wneud hynny a dwi’m yn meddwl bod neb eisiau gwybod mewn gwirionedd pry’n bynnag. Er hynny dwi yn teimlo’r angen i sgwennu rywbeth achos mae gen i lawer i fod yn ddiolchgar amdano a llawer o bethau i edrych ymlaen atyn nhw yn 2016. Bron i dair mlynedd i mewn – fedra i ddweud a llaw ar fy nghalon mai cychwyn y busnes yma ydi’r peth anoddaf dwi erioed wedi ei wneud a fyswn i wedi medru rhoi’r ffidil yn y tô nifer o weithiau ond dwi’n gwybod petawn i wedi, y byswn i’n difaru. Bum mlynedd yn ôl fyswn i ddim wedi medru llifio’n syth heb son am unrhyw beth arall ond dwi’n gweld datblygiad creadigol yn fy ngwaith a ffordd o feddwl drwy’r adeg a mae dysgu gymaint o ddydd i ddydd yn rywbeth na fedra i ffeirio yn ôl am ddiwrnod naw tan bump arferol bellach – fedra i ddim. A mae gweithio i fi fy hun y teimlad gorau erioed. Dwi hefyd yn falch iawn o weld busnesau ‘band un dyn/dynes’ eraill creadigol o’r safon uchaf yn yr ardal yn gwneud cystal. Parch. Os oes yna rywun talentog a phenderfynol efo dipyn o ardddeliad iddyn nhw yn darllen hwn ac yn meddwl gwneud rywbeth tebyg – gnwewch o i’r diawl. Fues i’n ddigon gwirion, a dwi’n dra diolchgar am hynny. Yn ystod y flwyddyn nesa’ dwi am ddechrau dylunio casgliad ychydig yn wahanol, fydd...