Blogiad cyntaf…

Blogiad cyntaf…

Mae’r gweithdy yn hên. Ddim mor hên a 1904 oherwydd tydy fy nhaid (sy’n dal y fwyell yn y llun uchod) ddim wedi ei adeiladu eto. Ond rywbryd yn ystod y blynyddoedd canlynol, mi gododd yr adeilad sydd dal yn sefyll heddiw, ar lawr pridd lle mae’r trelar hwnnw yn sefyll rhwng y ddwy goeden yn y llun. Dydy’r llawr pridd ddim yno dim mwy, oherwydd i fy nhad osod sleepers rheilffordd yn lawr o un pen i’r llall rywbryd yn ystod y 60au neu’r 70au. Be sy’n ddifyrach am y llun ydy’r prysurdeb naturiol sydd i’w weld a phawb a’i swydd mewn cymuned hollol hunan gynhaliol, a ddim rhamantu ydw i (wel ella chydig) ond dwi o’r farn nad ydy pentrefi cefn gwlad i fod yn ‘lefydd tawel’. Mae’r elusendai sydd yn y cefndir yn y llun bellach yn dai gwyliau, fel nifer o’r tai yn y pentre’, am fod rywun wedi gweld cyfle i ecsploitio harddwch naturiol a distawrwydd symptomatic o economi wedi methu. Pry’n bynnag, dwi ‘di prynnu bandsaw a thickensser newydd – gawn ni weld be ddwedan nhw! Oherwydd y pwrcasiad newydd, dwi wedi treulio’r deuddydd dwytha yn clirio a sortio gwerth 80(?) mlynedd o lanast er mwyn gwneud lle. Mae wedi cymryd bron iawn i flwyddyn i mi ffeindio’r amynedd i wneud hyn ond mae’n ben set felly rhaid yw rhaid a Ba! Sentimentaleiddiwch! medda finna. Mae yna gymaint o bethau dwi’n dod ar eu traws sydd wedi colli eu defnydd bellach fel na wyr neb be ddiawl ydyn nhw. Wrth gwrs, dwi’n tin droi wedyn am resymau teuluol ond faint o gysylltiad emosiynol fedrith rywun gael efo...