Ddechrau’r Hâf mi ges i’r pleser o greu cadair siglo mewn arddull craftsman efo Paul Sellers yn ei weithdy yng Nghastell Penrhyn. Mae bob uniad yn y darn – 56 ohonyn nhw, wedi eu gwneud ac offer llaw a mae’r dyluniad wedi ei greu i bara dau oes.

At the beginning of summer I had the pleasure of creating a craftsman style rocking chair with Paul Sellers in his workshop at Castell Penrhyn. All the joints are hand made – 56 of them, made with hand tools and traditional methods to a design built to last two ages.

DSC_0074-1024x678

Roedd o’n syndod mawr gen i mod i wedi medru creu y fath beth efo dim ond tua 10 twlsyn llaw, a rheiny ar y cyfan yn offer gymharol arferol a hawdd i’w ffeindio. Pan ddechreuais i wneud hyn tua 3 mlynedd yn ôl, doeddwn i ddim callach sut oedd yn llifio mewn llinell syth a petai chi’n dweud adeg honno mai dyna dwi’n neud o ddydd i ddydd rwan yna mi fyswn wedi chwerthin ar eich pen.

I was amazed at myself that I could create such a thing with only around 10 hand tools. Tools widely available and nothing too out of the ordinary. When I began doing this around 3 years ago, I was none the wiser how to saw in a straight line and if you’d told me back then that this is what I would be doing from day to day I would have laughed in your face.

Mae posib newid yr upholstro am unrhyw liw neu batrwm dan haul a mae fersiynau llai neu mwy yn bosib hefyd.

The upholstery can be changed for any colour or pattern and smaller versions are available as well.

11109704_766597703437842_2952673355751713008_n

Mae Paul Sellers yn grefftwr ac addysgwr byd enwog. Dyn clen a straeon anhygoel am ei fywyd fel saer ym Mhrydain ac America. Cynllun Paul ydi’r gadair a mae mwy o fanylion am hyn a thoraeth o wybodaeth am waith coed yn gyffredinol ar flog Paul.

Paul Sellers is a world renowned craftsman and educator. A kind man with amazing stories from his life as a carpenter in Britain and America. The chair is Paul’s design and there’s more details about this and a trove of general woodworking information over at Paul’s blog.

Mae wastad yn bleser cael mynd i weithdy Paul a dwi’n dragwyddol ddiolchgar iddo am fy rhoi ar ben ffordd a dysgu mewn ffordd mor effeithiol.

It’s always a pleasure going to Paul’s workshop and I’m eternaly grateful to him for starting me off on the right foot in woodworking.

DSC_0057-1024x678

Dodrefn Eraill..

Other Furniture..