by Rhodri Owen | Dec 31, 2015 | gwaith coed, woodworking
Diwrnod ola’r flwyddyn a mae pawb i weld yn disgyn dros eu gilydd i wneud ryw fath o adolygiad o’r flwyddyn a fu, boed yn fusnes neu unigolyn. Dwi ddim am wneud hynny a dwi’m yn meddwl bod neb eisiau gwybod mewn gwirionedd pry’n bynnag. Er hynny dwi yn teimlo’r angen i sgwennu rywbeth achos mae gen i lawer i fod yn ddiolchgar amdano a llawer o bethau i edrych ymlaen atyn nhw yn 2016. Bron i dair mlynedd i mewn – fedra i ddweud a llaw ar fy nghalon mai cychwyn y busnes yma ydi’r peth anoddaf dwi erioed wedi ei wneud a fyswn i wedi medru rhoi’r ffidil yn y tô nifer o weithiau ond dwi’n gwybod petawn i wedi, y byswn i’n difaru. Bum mlynedd yn ôl fyswn i ddim wedi medru llifio’n syth heb son am unrhyw beth arall ond dwi’n gweld datblygiad creadigol yn fy ngwaith a ffordd o feddwl drwy’r adeg a mae dysgu gymaint o ddydd i ddydd yn rywbeth na fedra i ffeirio yn ôl am ddiwrnod naw tan bump arferol bellach – fedra i ddim. A mae gweithio i fi fy hun y teimlad gorau erioed. Dwi hefyd yn falch iawn o weld busnesau ‘band un dyn/dynes’ eraill creadigol o’r safon uchaf yn yr ardal yn gwneud cystal. Parch. Os oes yna rywun talentog a phenderfynol efo dipyn o ardddeliad iddyn nhw yn darllen hwn ac yn meddwl gwneud rywbeth tebyg – gnwewch o i’r diawl. Fues i’n ddigon gwirion, a dwi’n dra diolchgar am hynny. Yn ystod y flwyddyn nesa’ dwi am ddechrau dylunio casgliad ychydig yn wahanol, fydd...
by Rhodri Owen | Aug 11, 2015 | gwaith coed, gwyliau festival, woodworking
Dyna be oedd wythnos. Fel arfer i mi mae’r Eisteddfod yn wythnos o fwynhau, yfed, cyfarfod pobol newydd, cyfarfod hen ffrindiau, rwdlan, bandiau, barddoniaeth, campio, diffyg cwsg, dod i adnabod ardal newydd, profiadau emosiynol sy’n aros am chydig o fisoedd wedyn, celf a thomen o brofiadau eraill. Afraid dweud – ticiwyd y bocsys arferol ond y tro hwn ar ben y cowdel emosiynol a blinedig yma – roedd gen i stondin ar y maes am y tro cyntaf erioed. Well, that was something. Usualy, for me, the Eisteddfod means a week of enjoying, drinking, meeting new people, meeting old friends, talking nonsense, bands, poetry, camping, sleep deprevation, getting to know a new area, emotional experiences that last a few months after, art and a pile of other things. No need to say all boxes were ticked this time as well only this time I had a stall on the Maes. Roedd o’n gyfle arbennig a mi dreulais i wythnosau yn creu stoc newydd a gwahanol i’w arddangos ar lwyfan mwyaf Cymru a bu’n werth bob munud o waith. Ar y stondin yn y neuadd arddangos, roedd siarad am fy ngwaith am wythnos gyfa yn hwb mawr i mi fel crefftwr a mi fyswn yn ei argymell i unrhyw un. Heb son am werthiant, mae’r syniadau creadigol a ddaeth yn sgîl siarad a phwyso a mesur ymateb pobol i fy ngwaith yn amhrisiadwy. Sy’n oglygu y bydd llawer mwy i ddod. This was an amazing oppurtunity and I spent weeks creating new and different stock to exhibit in the largest festival of competitive music and poetry in Europe. On the...
by Rhodri Owen | Mar 16, 2015 | English, woodworking
A translation of the one that’s already up there in Welsh from a few months ago. I intend to do this more often, bilingualy and not always on the same subject in both languages. I did mention on twitter that I’d written a short story loosely based on woodworking which I was excited about, but having reread the whole thing I’ll save you the bother. So here goes.. The workshop’s old. Not as old as 1904 because my grandfather (the wheelwright who’s holding the axe in the above image) hasn’t built it yet. Sometime in the next few years he built the shed that still stands to this day, on a dirt floor where the trailer stand between the two trees in the photo. The dirt floor isn’t there anymore; my dad put down railway sleepers sometime in the 60s or 70s. What’s more interesting is the natural busyness that’s to be seen and everyone with his job in a totally self sufficient community, and I’m not romanticising, (well maybe a little) but I’m of the opinion that villages in the countryside aren’t meant to be ‘quite little places’. The almshouses in the background are holiday homes, like many of the old cottages in the village and the nearby area, beacuse someone took their oppurtunity to exploit the natural beauty and the quiet that’s symptomatic of a failed economy. Anyway.. I’ve bought a bandsaw and thickness planer… positive noise pollution? Because of the new purchase, I’ve been spending the past days clearing and sorting around 80+ years of mess to make room. Finding all kinds of tools and other...
by Rhodri Owen | Sep 11, 2014 | gwaith coed
Mae’r gweithdy yn hên. Ddim mor hên a 1904 oherwydd tydy fy nhaid (sy’n dal y fwyell yn y llun uchod) ddim wedi ei adeiladu eto. Ond rywbryd yn ystod y blynyddoedd canlynol, mi gododd yr adeilad sydd dal yn sefyll heddiw, ar lawr pridd lle mae’r trelar hwnnw yn sefyll rhwng y ddwy goeden yn y llun. Dydy’r llawr pridd ddim yno dim mwy, oherwydd i fy nhad osod sleepers rheilffordd yn lawr o un pen i’r llall rywbryd yn ystod y 60au neu’r 70au. Be sy’n ddifyrach am y llun ydy’r prysurdeb naturiol sydd i’w weld a phawb a’i swydd mewn cymuned hollol hunan gynhaliol, a ddim rhamantu ydw i (wel ella chydig) ond dwi o’r farn nad ydy pentrefi cefn gwlad i fod yn ‘lefydd tawel’. Mae’r elusendai sydd yn y cefndir yn y llun bellach yn dai gwyliau, fel nifer o’r tai yn y pentre’, am fod rywun wedi gweld cyfle i ecsploitio harddwch naturiol a distawrwydd symptomatic o economi wedi methu. Pry’n bynnag, dwi ‘di prynnu bandsaw a thickensser newydd – gawn ni weld be ddwedan nhw! Oherwydd y pwrcasiad newydd, dwi wedi treulio’r deuddydd dwytha yn clirio a sortio gwerth 80(?) mlynedd o lanast er mwyn gwneud lle. Mae wedi cymryd bron iawn i flwyddyn i mi ffeindio’r amynedd i wneud hyn ond mae’n ben set felly rhaid yw rhaid a Ba! Sentimentaleiddiwch! medda finna. Mae yna gymaint o bethau dwi’n dod ar eu traws sydd wedi colli eu defnydd bellach fel na wyr neb be ddiawl ydyn nhw. Wrth gwrs, dwi’n tin droi wedyn am resymau teuluol ond faint o gysylltiad emosiynol fedrith rywun gael efo...